Roedd gan Bryson Recycling, menter gymdeithasol ailgylchu fwyaf y DU, dri rheswm i ddathlu yng ngwobrau blynyddol Prentisiaethau, Cyflogaeth a Sgiliau cwmni Cambrian Training. Daeth Bryson i’r brig yn y categori Cyflogwr Mawr y Flwyddyn ac enillodd Andrew Bennett a Gerwyn Llyr Williams wobrau Prentis Eithriadol y Flwyddyn a Phrentis y Flwyddyn, yn y drefn honno.
Mae’r gwobrau yn cydnabod cyflogwyr a dysgwyr sydd wedi rhagori yn y rhaglenni prentisiaethau, sgiliau a chyflogaeth a ddarperir ledled Cymru gan gwmni Cambrian Training, ac fe gynhaliwyd y seremoni wobrwyo yng Ngwesty a Sba’r Metropole, Llandrindod.
Dywedodd Gareth Walsh, rheolwr cyffredinol Bryson Recycling (Cymru): “Rydyn ni’n hynod o falch ein bod wedi ennill y gwobrau hyn gan eu bod yn adlewyrchu diwylliant dysgu ein busnes. Mae pob aelod o’m tîm rheoli wedi cymryd rhan yn rhaglen brentisiaethau Cambrian Training ac mae’n braf eu gweld yn cael eu cydnabod.
“Erbyn hyn maen nhw’n helpu i fentora’r genhedlaeth nesaf o brentisiad. Mae prentisiaethau yn ganolog i genhadaeth y cwmni i reoli adnoddau mewn ffordd gynaliadwy ac achub yr amgylchedd.”
Gyda’r nod o drin gwastraff fel adnodd cynaliadwy, mae Bryson Recycling yn cefnogi Prentisiaethau mewn Gweithgareddau Ailgylchu Cynaliadwy a Rheoli Systemau Gweithredol ar Lefelau 2–4, sy’n cael eu darparu gan Cambrian Training.
Mae’r prentisiaethau yn rhoi’r sgiliau a’r wybodaeth sydd eu hangen i gefnogi gweithwyr sydd wedi cael eu dyrchafu o swyddi gweithredwyr ailgylchu i reolwyr gan wella ansawdd a pherfformiad y busnes hefyd.
Mae prentisiaethau hefyd wedi helpu i gadw a datblygu staff Bryson Recycling (Cymru) sydd bellach yn rhedeg tair Canolfan Ailgylchu yn ardal Cyngor Sir Ddinbych, a dwy yn ardal Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy. Mae’r cwmni hefyd yn gweithredu’r gwasanaeth casglu gwastraff gardd ar ran Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy.
“Rydyn ni’n blaenoriaethu dysgu a datblygiad staff ac yn sicrhau bod pob gweithiwr yn cael cyfle i gymryd rhan mewn rhaglenni hyfforddiant achrededig ac anffurfiol,” ychwanegodd Gareth.
“Mae’r rhaglen brentisiaethau wedi bod o fudd uniongyrchol i’n gweithwyr drwy greu llwybr gyrfa sy’n eu galluogi i ddefnyddio’r wybodaeth a’r sgiliau maent yn eu hennill. Yn ogystal â hyn, mae’r rhaglen brentisiaethau yn helpu i gadw a datblygu staff yn yr adrannau ailddefnyddio ac ailgylchu yn fewnol.”
Cafodd Bryson Recycling ac enillwyr eraill y gwobrau eu llongyfarch gan Faith O’Brien, rheolwr gyfarwyddwr cwmni Cambrian Training. “Cyflogwyr sy’n gyfrifol am lwyddiant prentisiaethau a rhaid canmol eu hymrwymiad i ddarparu cyfleoedd hyfforddiant a mentora o ansawdd” dywedodd.
“Trwy gymryd rhan, maen nhw’n agor drysau i brofiadau yn y byd go iawn, gan alluogi prentisiaid i ddysgu’r sgiliau ymarferol a’r wybodaeth sy’n angenrheidiol ar gyfer eu meysydd gwaith.
“Mae prentisiaethau yn fuddsoddiad yn ein dyfodol ac maen nhw’n rhoi sylfaen ar gyfer economi gref a llewyrchus.”
Ariennir Rhaglen Prentisiaethau Cymru gan Lywodraeth Cymru gyda chymorth gan Gronfa Gymdeithasol Ewrop.