Mae Bryson Recycling wedi cyfrannu £8222 i elusennau lleol drwy ei ymgyrch “Gwobrau Ailgylchu”. Dyma’r swm mwyaf erioed ers lansio’r ymgyrch hon yn 2020. Yn ystod y pum mlynedd diwethaf, mae’r fenter hon wedi cyfrannu dros £48,000 i elusennau.
Mae’r ymgyrch “Gwobrau Ailgylchu” yn golygu bod Bryson yn cyfrannu £1 i elusen am bob tunnell o wastraff gardd a gesglir gan y gwasanaeth casgliadau bin brown mae’n ei ddarparu ar ran Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy.
Rhwng dechrau mis Hydref 2023 a diwedd mis Medi 2024, casglodd Bryson 8222 tunnell o wastraff gardd, gan wneud cyfraniad o £8222. Roedd tair elusen ar y rhestr fer eleni: Blind Veterans UK, Banc Bwyd Llanfairfechan a Chanolfan Gymunedol Bae Cinmel, a gofynnwyd i drigolion Conwy helpu i ddewis faint i’w gyfrannu i bob elusen drwy fwrw pleidlais ar-lein.
Mae Blind Veterans UK yn helpu cyn-filwyr sydd ag amhariad ar y golwg i ailadeiladu eu bywydau ar ôl colli eu golwg. Derbyniodd yr elusen 52% o’r bleidlais, sef cyfraniad o £4275.
Dywedodd Rosina Hearn, Swyddog Arweiniol Ymgysylltu â’r Gymuned Blind Veterans: "Mae Bryson Recycling wedi bod yn gefnogol iawn i Blind Veterans UK, ac mae wedi cyfrannu nwyddau i’n Canolfan Lleisant yn Llandudno sydd wedi ein galluogi i ddarparu ardaloedd diogel, prydferth yn yr awyr agored i’r cyn-filwyr sy’n ymweld â’r ganolfan. Rydyn ni’n gwerthfawrogi’n fawr fod aelodau tîm Bryson sydd wedi gweld ein gwaith pwysig wedi ein henwebu ar gyfer y bleidlais hon, ac rydym hyd yn oed yn fwy diolchgar i aelodau cymuned Conwy am eu cefnogaeth wrth fwrw eu pleidlais. Bydd yr arian yn cael ei ddefnyddio yn ein Canolfan yn Llandudno i sicrhau bod ein cyn-filwyr yn derbyn cymorth a phrofiadau sy’n newid eu bywydau gan eu helpu i fyw bywydau annibynnol a llawn."
Mae Banc Bwyd Llanfairfechan yn helpu pobl sy’n cael trafferth ymdopi â chostau byw bob dydd. Derbyniodd yr elusen 31% o’r bleidlais, sef cyfraniad o £2549.
Dywedodd Penny Andow, Sylfaenydd a Chadeirydd Banc Bwyd Llanfairfechan: “Mae’r cyfraniad ariannol hwn yn wych. Mae’r holl arian rydyn ni’n ei dderbyn yn cael ei ddefnyddio i gael bwyd ar gyfer ein cleientiaid. Rydyn ni’n grŵp o wirfoddolwyr sy’n rhoi eu hamser a’u hegni i helpu ein cymuned. Hoffem ddiolch i bawb sydd wedi pleidleisio drosom, a diolch yn fawr iawn i Bryson”.
Mae Canolfan Gymunedol Bae Cinmel yn darparu amgylchedd diogel a chroesawgar ac amrywiaeth eang o weithgareddau a digwyddiadau i bobl leol. Derbyniodd yr elusen 17% o’r bleidlais, sef cyfraniad o £1398.
Dywedodd y Cynghorydd Nigel Smith, Cadeirydd Canolfan Gymunedol Bae Cinmel “Hoffwn ddiolch i Bryson Recycling am ei waith amgylcheddol a’i gefnogaeth barhaus i elusennau lleol yn Sir Conwy. Bydd Canolfan Gymunedol Bae Cinmel yn defnyddio’r cyfraniad hael hwn er mwyn parhau i ddarparu gweithgareddau sy’n hybu lles corfforol a meddyliol y trigolion lleol."
Ychwanegodd y Cynghorydd Geoff Stewart, Aelod Cabinet Cymdogaeth a’r Amgylchedd Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy: “Mae hyn yn hwb mawr i’r achosion da hyn – drwy ailgylchu gwastraff gardd, mae trigolion lleol nid yn unig yn helpu’r amgylchedd, maen nhw’n helpu elusennau ar yr un pryd. Rydyn ni’n annog trigolion i ddal ati i ailgylchu fel bod y cynllun Gwobrau Ailgylchu yn helpu mwy o elusennau yn y dyfodol.”
Dywedodd Gareth Walsh, Rheolwr Cyffredinol Bryson Recycling: “Eleni oedd blwyddyn fwyaf llwyddiannus yr ymgyrch hyd yma, rydyn ni wedi cyfrannu’r swm mwyaf erioed sef £8222 ac fe wnaeth dros 6400 o bobl fwrw pleidlais ar-lein. Diolch i’r holl drigolion lleol sydd wedi cymryd rhan yn yr ymgyrch eleni – naill ai drwy bleidleisio dros eu hoff elusen neu drwy ailgylchu eu gwastraff gardd.”
Mae’r gwasanaeth gwastraff gardd yn casglu gwastraff gardd o’r cartref bob pythefnos. I gael rhagor o fanylion ewch i www.brysonrecycling.org.