Pleidleisiwch nawr dros eich hoff elusen yn yr ymgyrch “Gwobrau Ailgylchu”

Gallwch nawr bleidleisio yn ymgyrch arloesol “Gwobrau Ailgylchu” Bryson Recycling.  Fel rhan o’r ymgyrch flynyddol hon mae’r fenter gymdeithasol leol Bryson Recycling yn cyfrannu £1 i elusen am bob tunnell o wastraff gardd a gesglir gan y gwasanaeth casgliadau bin brown mae’n ei ddarparu ar ran Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy.

Rhwng dechrau mis Hydref 2023 a diwedd mis Medi 2024, casglodd Bryson 8222 tunnell o wastraff gardd, gan olygu y bydd yn cyfrannu £8222 i elusen. Dyma’r swm mwyaf ers lansio’r ymgyrch hon yn 2020.

Mae tair elusen ar y rhestr fer ac mae Bryson yn gofyn i drigolion lleol bleidleisio dros yr elusen maent yn dymuno ei chefnogi. Bydd y swm a roddir i bob elusen yn seiliedig ar nifer y pleidleisiau y byddant yn eu derbyn.

Yr elusennau yw Canolfan Gymuned Bae Cinmel, sy’n darparu amgylchedd diogel a chroesawgar ac amrywiaeth eang o weithgareddau a digwyddiadau i bobl leol; Blind Veterans UK, sy’n helpu cyn-aelodau o’r lluoedd arfog sydd ag amhariad ar y golwg i ailadeiladu eu bywydau ar ôl colli eu golwg; a Banc Bwyd Llanfairfechan, sy’n cynnig cymorth i bobl sy’n cael trafferth ymdopi â chostau byw bob dydd.

Dywedodd Gareth Walsh, Rheolwr Cyffredinol Bryson Recycling “Mae Bryson Recycling wedi ymrwymo i helpu’r amgylchedd a’r cymunedau yn yr ardaloedd lle rydyn ni’n darparu ein gwasanaethau. Rydyn ni’n falch ein bod yn gallu cefnogi’r elusennau lleol gwych hyn drwy ein hymgyrch “Gwobrau Ailgylchu” ac rydyn ni wrth ein bodd â’r swm y byddwn yn ei gyfrannu eleni, y mwyaf erioed. Hoffwn annog trigolion lleol i gymryd rhan a phleidleisio dros yr elusen maen nhw’n dymuno ei chefnogi”.

Ychwanegodd y Cynghorydd Geoff Stewart, Aelod Cabinet Cymdogaeth a’r Amgylchedd Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy “Trwy ailgylchu eu gwastraff gardd, gall trigolion lleol helpu’r amgylchedd a chefnogi elusennau lleol ar yr un pryd. Rydyn ni’n awyddus i weld trigolion lleol yn cymryd rhan yn yr ymgyrch a hoffwn eu hannog i ddewis yr elusen maen nhw’n dymuno ei chefnogi”.

I bleidleisio dros eich hoff elusen, ewch i www.brysonrecycling.org/wales/gwastraffgardd. Rhaid pleidleisio erbyn 10 Tachwedd 2024.