Telerau ac Amodau’r Gwasanaeth Casglu Gwastraff Gardd bob Pythefnos

1. Mae’r cytundeb hwn rhwng y preswylydd (‘Cwsmer’) a Bryson Recycling ac mae’n nodi’r Telerau ac Amodau sy’n gymwys er mwyn i’r Cwsmer ddefnyddio’r Gwasanaeth Casgliad Gwastraff Gardd bob Pythefnos. Gall Bryson Recycling amrywio neu newid y Telerau ac Amodau hyn o dro i dro. Bydd y Cwsmer yn derbyn rhybudd ysgrifenedig 10 diwrnod ymlaen llaw am unrhyw newidiadau o’r fath.

2. Mae’r cyfnod tanysgrifio blynyddol presennol wedi’i nodi yn y Rhestr Brisiau.

3. Rhaid talu’r tâl tanysgrifio blynyddol yn llawn hyd yn oed os ydych yn tanysgrifio yng nghanol y flwyddyn danysgrifio.  Mae’r prisiau tanysgrifio blynyddol wedi’u nodi yn ein Rhestr Brisiau. Bydd y tanysgrifiad blynyddol yn dechrau 14 diwrnod ar ôl derbyn eich taliad oni bai eich bod yn gwsmer newydd sy’n tanysgrifio cyn 31 Mawrth. Ni fydd cwsmeriaid newydd sy’n tanysgrifio cyn 31 Mawrth yn derbyn eu bin(iau) tan ar ôl 1 Ebrill, yn unol â dyddiad dechrau’r flwyddyn danysgrifio newydd ac felly ni fydd ganddynt hawl i unrhyw gasgliadau nes eu diwrnod casgliad cyntaf ar ôl 1 Ebrill.

4. Bydd biniau brown, neu sachau y gellir eu hailddefnyddio, yn cael eu darparu i Gwsmeriaid sy’n tanysgrifio er mwyn iddynt roi eu gwastraff gardd ynddynt.  Cesglir y biniau brown neu’r sachau bob pythefnos yn unol â’r trefniadau Diwrnodau Casglu.  Dim ond biniau brown, neu sachau y gellir eu hailddefnyddio a gynhyrchwyd neu a gafodd eu caffael gan Bryson Recycling y gellir eu defnyddio.  Os nad yw’r gwastraff gardd wedi cael ei roi yn y biniau brown neu’r sachau pwrpasol a ddarparwyd gan Bryson Recycling ni fydd yn cael ei gasglu o dan unrhyw amgylchiadau.

5. Gall pob Cwsmer archebu hyd at uchafswm o 4 bin brown (neu 8 o sachau y gellir eu hailddefnyddio os yw’r eiddo yn gymwys yn unol ag adran 9).

6. Bydd biniau brown, neu sachau y gellir eu hailddefnyddio, yn cael eu danfon am ddim fel rhan o archeb gyntaf Cwsmeriaid. Codir tâl o £20.00 am ddanfon unrhyw finiau ychwanegol a gaiff eu harchebu yn ddiweddarach, fel y nodir yn ein Rhestr Brisiau.

7. Gall unrhyw aelwyd ddomestig, neu eiddo domestig yn Sir Conwy ddod yn Gwsmer a thanysgrifio i’r gwasanaeth. Rhaid i bob eiddo annomestig sy’n dymuno tanysgrifio i’r gwasanaeth gael ei gymeradwyo gan Bryson Recycling ac mae Bryson Recycling yn cadw’r hawl i ganslo, neu wrthod unrhyw danysgrifiadau blynyddol ar gyfer eiddo annomestig.

8. Ar ôl eu harchebu, bydd biniau brown yn cael eu danfon i eiddo’r Cwsmer cyn pen 14 diwrnod gwaith ar ôl i Bryson Recycling dderbyn taliad am y tanysgrifiad blynyddol. Cyfrifoldeb y Cwsmer yw sicrhau ei fod yn tanysgrifio i’r gwasanaeth o leiaf 14 diwrnod gwaith cyn y dyddiad casglu nesaf i sicrhau bod y bin brown yn cael ei ddanfon a’i fod ar gael i’w lenwi a’i gasglu. Bydd cwsmeriaid sy’n tanysgrifio cyn 31 Mawrth yn rhwymedig i amserlenni danfon a dechrau’r gwasanaeth a nodir yn Adran 3 y telerau ac amodau hyn. Bydd Adran 3 hefyd yn gymwys i unrhyw archebion am finiau ychwanegol gan gwsmeriaid sy’n adnewyddu eu tanysgrifiad.

9. Gellir darparu sachau y gellir eu hailddefnyddio i Gwsmeriaid os yw eu heiddo yn anaddas ar gyfer bin.  Rhaid i’r defnydd o’r sachau gael ei gymeradwyo gan Bryson Recycling a darperir tagiau talu i’w gosod ar bob sach y talwyd y ffi tanysgrifio blynyddol ar ei chyfer.  Ar ôl eu harchebu, bydd sachau y gellir eu hailddefnyddio yn cael eu danfon i eiddo’r cwmser cyn pen 14 diwrnod gwaith ar ôl i Bryson Recycling dderbyn taliad am y tanysgrifiad blynyddol.  Cyfrifoldeb Cwsmeriaid yw sicrhau eu bod yn tanysgrifio i’r gwasanaeth o leiaf 14 diwrnod gwaith cyn y dyddiad casglu nesaf i sicrhau bod y sach(au) yn cael eu danfon a’u bod ar gael i’w llenwi a’u casglu. Bydd cwsmeriaid sy’n tanysgrifio cyn 31 Mawrth yn rhwymedig i amserlenni danfon a dechrau’r gwasanaeth a nodir yn Adran 3 y telerau ac amodau hyn. Bydd Adran 3 hefyd yn gymwys i unrhyw archebion am sachau ychwanegol gan gwsmeriaid sy’n adnewyddu eu tanysgrifiad.

10. Dim ond gwastraff gardd o finiau brown a sachau y gellir eu hailddefnyddio y talwyd tanysgrifiad blynyddol cyfredol amdanynt fydd yn cael ei gasglu.

11. CWSMERIAID SY’N ADNEWYDDU EU TANYSGRIFIAD: Bydd sticeri /tagiau taliad yn cael eu hanfon yn y post at Gwsmeriaid sy’n tanysgrifio ar gyfer y gwasanaeth blynyddol o fis Mawrth 2024 ymlaen. A fyddech cystal â rhoi’r sticer yn sownd yn eich bin ar ôl i chi ei dderbyn (neu glymu’r tag i’ch sach adnewyddadwy).

12. CWSMERIAID NEWYDD NEU GWSMERIAID SY’N ARCHEBU BINIAU YCHWANEGOL: Bydd eich biniau yn cael eu danfon gyda’r sticeri taliad yn sownd ynddynt.

13. Cyfrifoldeb y Cwsmer yw sicrhau ei fod yn tanysgrifio ar gyfer y gwasanaeth o leiaf 14 diwrnod cyn y dyddiad casglu nesaf fel bod modd prosesu’r archeb.  Bydd y cyfnod tanysgrifio yn dechrau 14 diwrnod ar ôl i ni dderbyn taliad.

14. Mae manylion y dyddiadau casglu ar gyfer eiddo ar gael ar ein gwefan. Gallwch ofyn am galendrau casgliadau drwy lenwi ein Ffurflen Rhoi Gwybod am Broblem a byddant yn cael eu hanfon drwy e-bost am ddim. 

15. Gall amseroedd casglu ar ddyddiau casglu arferol amrywio felly rhaid sicrhau bod y biniau brown (neu’r sachau y gellir eu hailddefnyddio) wedi’u rhoi ger ymyl yr eiddo mewn man sydd i’w weld yn amlwg o’r ffordd ddim hwyrach na 7.00am ar y diwrnod casglu.

16. Bydd Bryson Recycling yn trefnu gwasanaeth casgliadau â chymorth ar gyfer Cwsmeriaid sy’n cael trafferth symud eu biniau brown (neu sachau y gellir eu hailddefnyddio) i ymyl yr eiddo ar y diwrnod casglu – i wneud cais am wasanaeth casgliadau â chymorth ffoniwch ni ar 01492 555898.

Gallwch wneud cais am wasanaeth Casglu â Chymorth os nad ydych chi’n gallu symud eich bin brown (neu sachau y gellir eu hailddefnyddio) ac:

  • Os nad oes neb arall (perthynas, ffrind, cymydog neu ofalwr) yn gallu eich helpu chi i symud eich bin brown neu sachau at ymyl y palmant ar y diwrnod casglu.
  • Os oes gennych chi le addas i osod eich bin brown (neu sachau y gellir eu hailddefnyddio) sydd o fewn cyrraedd rhesymol i’n criwiau casglu.
  • Os ydych yn cytuno i ddidoli eich eitemau yn gywir ar gyfer eu hailgylchu.

*Sylwer mae ein rhestr casgliadau â chymorth yn cael ei chadw ar wahân i restr y cyngor felly bydd angen i chi gysylltu â ni’n uniongyrchol os oes angen casgliad â chymorth arnoch ar gyfer eich bin(iau) brown.

17. Ni fydd biniau brown (neu sachau y gellir eu hailddefnyddio) sy’n cael eu gadael allan ar ôl y casgliad yn cael eu casglu tan y dyddiad casglu arferol nesaf.

18. Bydd biniau brown (neu sachau y gellir eu hailddefnyddio) na chafodd eu casglu oherwydd camgymeriad gan staff Bryson Recycling yn cael eu casglu cyn gynted ag y bo’n ymarferol – fel arfer cyn pen 24 awr ar ôl derbyn adroddiad am fethiant i gasglu’r gwastraff – cyn belled â’ch bod yn rhoi gwybod i ni am y casgliad a gollwyd cyn pen 48 awr ar ôl y dyddiad casglu arferol.

19. Ar adegau, efallai na fydd yn bosibl casglu bin brown y cwmser (neu’r sachau y gellir eu hailddefnyddio), gan gynnwys ond nid yn gyfyngedig i’r rhesymau canlynol: amodau tywydd gwael, cerbydau yn torri i lawr, gwaith ar y ffordd, pandemig a/neu weithredu diwydiannol. Os bydd Bryson Recycling yn methu casgliad, neu os na fydd yn bosibl i’n staff gasglu bin brown y Cwsmer yn unol â’r trefniant, bydd Bryson Recycling yn gwneud ei orau i gasglu’r bin brown (neu’r sachau y gellir eu hailddefnyddio) cyn gynted â phosibl. Ni fydd Bryson Recycling yn rhoi ad-daliad (llawn neu rannol) am fethu â chasglu bin brown (neu sachau y gellir eu hailgylchu) neu am fethu casgliad o dan unrhyw amgylchiadau.

20. Cesglir gwastraff gardd drwy’r flwyddyn. Dros gyfnod y Nadolig a’r Flwyddyn Newydd, gall dyddiadau rhai casgliadau newid. Bydd Cwsmeriaid yn cael gwybod am unrhyw newid i’w dyddiau casglu arferol os bydd eu dyddiau casglu ar unrhyw un o’r dyddiadau hyn.

21. Ni fydd y gwastraff yn cael ei gasglu os yw’r bin, neu’r sach y gellir ei hailddefnyddio, yn rhy drwm, yn orlawn neu’n cynnwys bagiau; rhaid sicrhau bod clawr y bin brown ar gau bob amser. Bydd Tag ‘Mae’n ddrwg gennym’ yn cael ei osod ar unrhyw finiau brown (neu sachau) sy’n drwm neu’n orlawn neu sy’n cynnwys bagiau ac ni fyddan nhw’n cael eu casglu tan y dyddiad casglu nesaf.

22. Ni fyddwn yn casglu biniau brown, neu sachau y gellir eu hailddefnyddio, os ydynt yn cynnwys unrhyw eitemau anghywir fel yr amlinellir yn ein Meini Prawf ar gyfer Derbyn Gwastraff Gardd.  Bydd Tag ‘Mae’n ddrwg gennym’ yn cael ei osod ar unrhyw finiau brown sy’n cynnwys eitemau anghywir. Mae Bryson Recycling yn cadw’r hawl i benderfynu a yw bin neu sach y gellir ei hailddefnyddio yn cynnwys unrhyw eitemau anghywir ac ni fydd yn dychwelyd i gasglu’r bin/sach tan y dyddiad casglu nesaf.

23. Cyfrifoldeb deiliad tai yw datrys unrhyw faterion a nodwyd ar y Tag ‘Mae’n ddrwg gennym’ ac ni fydd casgliad arall yn cael ei wneud tan y dyddiad casglu arferol nesaf. Mae Bryson Recycling yn cadw’r hawl i roi Tag ‘Mae’n ddrwg gennym’ a bydd ein penderfyniad yn derfynol ac ni fyddwn yn dychwelyd i archwilio, na chasglu’r bin tan y dyddiad casglu nesaf.

24. Os bydd biniau brown neu sachau’r Cwsmer yn cael eu difrodi bydd Bryson Recycling yn eu trwsio neu yn darparu biniau/sachau newydd yn eu lle, am ddim, cyn gynted ag y bo’n ymarferol bosibl, ac eithrio mewn amgylchiadau lle mae’r bin brown gwastraff gardd wedi cael ei ddifrodi oherwydd esgeulustod neu gamddefnydd, ac yn yr achos hwnnw codir tâl ar y Cwsmer o £20.00 y bin neu £10.00 y sach am eu trwsio neu am ddarparu bin newydd.

25. Os bydd y Cwsmer yn symud tŷ o fewn Sir Conwy gall y tanysgrifiad gael ei drosglwyddo i’w gyfeiriad newydd. A fyddech cystal ag anfon neges e-bost at Bryson Recycling i gadarnhau’r manylion (gwastraffgardd@brysonrecycling.org).  Cyfrifoldeb y Cwsmer yw symud ei fin brown (neu sachau y gellir eu hailddefnyddio) i’r eiddo newydd. Os bydd y Cwsmer yn symud allan o Sir Conwy yna bydd y bin brown (neu’r sachau y gellir eu hailddefnyddio) a’r tanysgrifiad blynyddol sy’n weddill yn aros gyda’r eiddo.

26. Cwsmeriaid fydd yn gyfrifol am y bin brown (neu’r sachau y gellir eu hailddefnyddio) a dylai Cwsmeriaid wneud ymdrech i ddangos bod eu bin brown (neu sachau y gellir eu hailddefnyddio) yn perthyn i’w heiddo oherwydd ni fydd Bryson Recycling yn derbyn unrhyw atebolrwydd am finiau sy’n mynd ar goll neu sy’n cael eu dwyn.

27. Gellir canslo’r tanysgrifiad blynyddol ar unrhyw adeg, fodd bynnag byddwn yn rhoi ad-daliadau yn unol â’n Polisi Ad-dalu yn unig. Ni fydd Bryson Recycling yn symud unrhyw finiau o eiddo lle bydd y Cwsmer yn dewis peidio ag aildanysgrifio i’r gwasanaeth, yn canslo’r gwasanaeth, neu’n lleihau nifer y biniau sy’n rhan o’i danysgrifiad.

Bydd yn rhaid rhoi cyfeiriad e-bost wrth danysgrifio er mwyn sicrhau y gall Bryson Recycling ddarparu gwybodaeth hanfodol am y gwasanaeth casglu.

28. Bydd Bryson Recycling yn prosesu unrhyw ddata personal yn unol â’i Rybudd Preifatrwydd y gallwch ei ddarllen yma.

29. Nid yw’r telerau ac amodau hyn mewn perthynas â’r gwasanaeth yn effeithio ar eich hawliau statudol.

Polisi Ad-dalu

Mae hawl gennych i ganslo eich tanysgrifiad a chael ad-daliad llawn cyn pen 14 diwrnod ar ôl i chi gyflwyno eich archeb. Ni fyddwn yn cynnig unrhyw ad-daliadau ar ôl i’r cyfnod ‘cnoi cil’ 14 diwrnod ddod i ben. 

Bydd unrhyw archeb sy’n cael ei chanslo yn dilyn y cyfnod ‘cnoi cil’ 14 diwrnod yn ddarostyngedig i’r amodau a amlinellir yn adran 27 ‘Telerau ac Amodau’r Gwasanaeth Casglu Gwastraff Gardd bob Pythefnos’ ac ni fydd unrhyw ad-daliadau (llawn neu rannol) am ganslo’r gwasanaeth ar unrhyw adeg yn ystod y flwyddyn.

Os oes tystiolaeth bod y Cwsmer yn camddefnyddio’r Gwasanaeth, neu’r bin brown gwastraff gardd, yn unol ag adrannau 21 a 22 ‘Telerau ac Amodau’r Gwasanaeth Casglu Gwastraff Gardd bob Pythefnos’, yna gellir canslo’r Gwasanaeth. Ni fydd unrhyw ad-daliad (llawn neu rannol) o dan yr amgylchiadau hyn.

Os byddwch yn symud tŷ o fewn Sir Conwy yna byddwn yn trosglwyddo’r gwasanaeth i’r cartref newydd. Fodd bynnag ni fyddwn yn cynnig ad-daliad os byddwch yn symud allan o Sir Conwy gan y bydd y tanysgrifiad yn parhau yn gysylltiedig â’r eiddo yn unol ag adran 25 ‘Telerau ac Amodau’r Gwasanaeth Casglu Gwastraff Gardd bob Pythefnos’.