Mae gwasanaeth casglu gwastraff gardd Bryson Recycling wedi casglu’r swm mwyaf erioed o wastraff gardd eleni ac, o ganlyniad, bydd y cwmni yn cyfrannu £7869 i elusennau drwy ei ymgyrch “Gwobrau Ailgylchu”.
Mae’r ymgyrch flynyddol hon yn cael ei chynnal eleni am y pedwerydd tro. Mae Bryson yn cyfrannu £1 i elusennau am bob tunnell o wastraff gardd a gesglir drwy’r gwasanaeth casgliadau bin brown mae’n ei ddarparu ar ran Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy.
Rhwng dechrau mis Hydref 2022 a diwedd mis Medi 2023, casglodd Bryson 7869 tunnell o wastraff gardd, gan wneud cyfraniad elusennol o £7869. Roedd tair elusen ar y rhestr fer eleni, sef Banc Bwyd Conwy Wledig, The Lily Foundation a Resource CIC. Gofynnwyd i breswylwyr Conwy gymryd rhan mewn pleidlais ar-lein i ddewis faint o arian i’w roi i bob elusen.
Mae Banc Bwyd Conwy Wledig yn gwasanaethu preswylwyr Llanrwst ac ardaloedd gwledig Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy drwy ddarparu parseli bwyd i bobl mewn angen. Derbyniodd yr elusen 48% o’r pleidleisiau gan wneud cyfraniad o £3777. Dywedodd y Cynghorydd Nia Clwyd Owen a’r Cynghorydd Gwennol Ellis o Banc Bwyd Conwy Wledig: “Rydyn ni’n falch iawn fod Banc Bwyd Conwy Wledig wedi derbyn yr arian hwn. Bydd yn help mawr wrth i ni wynebu un o gyfnodau prysuraf y flwyddyn pan mae angen parseli bwyd argyfwng ar fwy o bobl nag erioed ar draws Cymru a Sir Conwy, gan gynnwys yr ardaloedd gwledig. Mae aelwydydd yn dal i wynebu anawsterau oherwydd yr argyfwng costau byw, ac rydyn ni’n ddiolchgar ein bod yn gallu cynnig cymorth a chefnogaeth. Mae pob cyfraniad, yn fawr neu’n fach, yn gwneud gwahaniaeth go iawn. Diolch yn fawr iawn!”
The Lily Foundation yw elusen clefyd mitocondria fwyaf y DU a phrif ariannwr elusennol ymchwil mitocondriaidd yn Ewrop. Derbyniodd 33% o’r bleidlais a chyfraniad o £2597. Dywedodd Liz Curtis, Prif Swyddog Gweithredol The Lily Foundation: “Mae The Lily Foundation yn hynod o ddiolchgar i Bryson Recycling am y cyfraniad anhygoel hwn. Cyflwr genetig gwanychol, prin yw clefyd mitocondria a does dim gwellhad na thriniaeth effeithiol ar ei gyfer. Fel elusen sy’n cefnogi pobl y mae’r clefyd hwn yn effeithio arnyn nhw, rydyn ni’n falch iawn o’r cyfle hwn i godi arian, a chodi ymwybyddiaeth hefyd. Hoffem ddiolch yn fawr iawn hefyd i Ryan am ein henwebu! Bydd yr arian yn cael ei ddefnyddio i gefnogi’r bobl hynny y mae clefyd mito yn effeithio arnyn nhw ac i ddod o hyd i wellhad ar ei gyfer!”
Mudiad nid-er-elw yw ReSource CIC sy’n ceisio cael effaith gadarnhaol ar y gymuned leol a’r amgylchedd drwy gynnal gweithgareddau eco-gynaliadwy. Derbyniodd yr elusen 19% o’r bleidlais a chyfraniad o £1495. Dywedodd Janine Cusworth, Sylfaenydd/Rheolwr-Gyfarwyddwr Resource CIC: “Rydyn ni’n falch iawn o gael ein henwebu gan Bryson ac rydyn ni eisiau diolch i’r gymuned am bleidleisio drosom. Bydd yr arian hwn yn helpu oedolion sy’n gwirfoddoli ac yn gweithio gyda ReSource i wireddu eu potensial drwy ddarparu hyfforddiant a chymorth. Rydyn ni’n edrych ymlaen i barhau i weithio gyda Bryson yn y dyfodol.”
Dywedodd y Cynghorydd Geoff Stewart, Aelod Cabinet Cymdogaeth a’r Amgylchedd Cyngor Bwrdeistrefol Sirol Conwy: “Mae’r ymgyrch wedi rhoi hwb mawr i’r holl achosion da – drwy ailgylchu eu gwastraff gardd, mae preswylwyr lleol nid yn unig yn dod â budd i’r amgylchedd, maen nhw hefyd yn helpu elusennau ar yr un pryd. Rydyn ni’n annog preswylwyr i barhau i ailgylchu fel y gall y cynllun Gwobrau Ailgylchu helpu mwy o bobl yn y dyfodol.”
Dywedodd Mark Ellis, Rheolwr Ymgysylltiad Cymunedol Bryson Recycling: “Ymgyrch eleni yw’r un fwyaf erioed, rydyn ni’n cyfrannu’r swm mwyaf erioed i elusennau ac mae dros 5000 o bobl wedi cymryd rhan yn ein pleidlais ar-lein. Diolch yn fawr i’r holl breswylwyr sydd wedi cymryd rhan yn yr ymgyrch eleni – naill ai drwy bleidleisio dros eu hoff elusen neu drwy ailgylchu eu gwastraff gardd.”
Mae’r gwasanaeth gwastraff gardd yn casglu gwastraff gardd o gartrefi preswylwyr bob pythefnos. I gael rhagor o fanylion, ewch i www.brysonrecycling.org.