Pam nad yw’r bin wedi cael ei wagio? |
Os ydych wedi talu eich tanysgrifiad blynyddol, rydych wedi gosod sticer taliad ar eich bin ond nid yw wedi cael ei wagio, rhowch wybod i ni yma. Bydd aelod o staff yn cysylltu â chi ynglyn â’ch casgliad. Os nad ydych wedi cofrestru i dderbyn casgliadau gwastraff gardd ar gyfer y cyfnod tanysgrifio blynyddol cyfredol yna gallwch wneud hynny yma. |
Ai taliad unwaith ac am byth yw hwn? | Na, bydd angen i chi dalu bob blwyddyn am eich gwasanaeth casglu. Byddwn yn codi tâl am bob bin sy’n cael ei gasglu. |
Pam mae pris y gwasanaeth yn codi ym mis Ebrill 2024? |
Pam mae pris y gwasanaeth yn codi ym mis Ebrill 2024? Bydd codiad o £5 yng nghost y gwasanaeth casglu gwastraff gardd eleni, o £35 i £40. Mae hyn oherwydd chwyddiant a’r cynnydd mewn costau gweithredu i ddarparu’r gwasanaeth. Bydd y codiad hwn yn gymwys i’r bin cyntaf ar eich archeb. Bydd cost unrhyw finiau ychwanegol yn aros yr un peth, sef £20 yr un. |
A fydd y tâl tanysgrifio yn llai os byddaf yn ymuno â’r cynllun yn hwyrach yn y flwyddyn? | Na fydd, bydd y tâl yr un fath ni waeth pryd byddwch yn tanysgrifio. |
A oes modd i mi dalu am gasgliad untro yn unig? | Nac oes, dim ond tanysgrifiad blwyddyn rydym yn ei gynnig. Gallwch ddechrau eich tanysgrifiad ar unrhyw adeg ond byddwch yn talu am y flwyddyn gyfan. |
Ga’ i roi bag leinin yn y bin i’w gadw’n lân neu roi bagiau sy’n cynnwys gwastraff gardd yn y bin? | Na chewch, rhaid i’r gwastraff gardd gael ei roi yn rhydd yn y bin. Os gwelwch yn dda, peidiwch â rhoi unrhyw fagiau yn y bin. |
A fydd gwastraff gardd ychwanegol yn cael ei gasglu os bydd yn cael ei adael wrth ymyl y bin? | Na fydd, dim ond gwastraff gardd sydd yn y biniau fydd yn cael ei gasglu. |
Beth fydd yn digwydd os byddaf yn symud tŷ yn ystod y cyfnod tanysgrifio? | Os byddwch yn symud i gyfeiriad arall yn Sir Conwy, gallwch fynd â’ch tanysgrifiad gyda chi os byddwch yn rhoi gwybod i ni. Os byddwch yn symud allan o Sir Conwy bydd y tanysgrifiad yn aros gyda’r eiddo. |
Beth os oes angen casgliad â chymorth arnaf? |
Os nad oes gennych rywun i’ch helpu, gallwch ofyn am gasgliad â chymorth os ydych yn cael trafferth symud eich bin at ymyl y palmant ar y diwrnod casglu. Mae ein rhestr casgliadau â chymorth yn un wahanol i restr y Cyngor, felly ffoniwch ni ar 01492 555898 os oes angen casgliad â chymorth arnoch ar gyfer eich bin(iau) brown. |
Does gen i ddim lle ar gyfer bin gwastraff gardd | Bydd gan y rhan fwyaf o gartrefi le ar gyfer bin gwastraff gardd, sef y ffordd hawsaf i ailgylchu. Os nad yw eich eiddo yn addas ar gyfer bin, ffoniwch ni ar 01492 555898. |
Sut rydych chi’n gwybod fy mod wedi talu am y gwasanaeth? |
Os ydych yn adnewyddu eich tanysgrifiad, byddwn yn anfon sticer taliad atoch yn y post ar gyfer pob bin rydych wedi talu tanysgrifiad ar ei gyfer. A fyddech cystal â rhoi’r sticer yn sownd yn y bin ar ôl i chi ei dderbyn. Os ydych yn gwsmer newydd, bydd y sticeri eisoes yn sownd yn y bin(iau) pan fyddwn yn eu danfon atoch. |
Beth os na fyddaf yn derbyn y sticer? |
Byddwn yn dechrau postio sticeri taliad o fis Mawrth 2024 ymlaen. Ar ôl i chi danysgrifio, dylech barhau i roi eich bin(iau)/sach(au) allan yn barod i’w casglu, does dim angen i chi gysylltu â ni i ofyn am sticeri gan y byddwn yn dal i wagio eich bin(iau)/sach(au) yn ôl yr arfer. |
Pam mae fy nghyfeiriad ar y sticer? |
Rydym wedi rhoi cyfeiriad yr eiddo sydd wedi tanysgrifio ar y sticer er mwyn helpu i atal twyll, fel dwyn sticeri. Y cyfeiriad yn unig sy'n ymddangos ar sticer y bin ac nid enw'r cwsmer. Mae hyn yn sicrhau nad ydym yn datgelu pwy yw'r cwsmer. |
A allaf gael sticer newydd? |
Gallwch archebu sticeri newydd drwy ffonio ein swyddfa ar 01492 555 898. Rydym yn codi tâl o £3 am bob sticer newydd. |
A allaf symud y sticer ar ôl iddo gael ei roi’n sownd yn y bin? |
Peidiwch â cheisio symud y sticer ar ôl iddo gael ei roi’n sownd yn y bin.
|
Beth sy’n digwydd i’r gwastraff gardd rydych chi’n ei gasglu? |
Mae’r gwastraff gardd rydym yn ei gasglu yn cael ei ddefnyddio’n lleol i wneud compost. |
Sut gallaf wirio fy niwrnod casglu? |
Cliciwch yma I wirio’ch diwrnod casglu. |
Sawl bag sy’n cyfwerth â’r bin? |
Mae ein biniau yn 240L, sy’n cyfwerth â 2 fag gwyrdd. |
Mae gen i fin brown ond nid wyf yn ei ddefnyddio mwyach. Sut mae cael cael gwared ar y bin? |
Gallwch ddod ag unrhyw finiau nad oes eu hangen arnoch i’n Canolfan Ailgylchu ym Mochdre. Bydd angen i chi drefnu apwyntiad ymlaen llaw i ymweld â’n canolfannau ailgylchu. Gallwch drefnu apwyntiad yma. |
Hoffwn gael bin arall; a oes yn rhaid i mi dalu am ei ddanfon? | Nid ydym yn codi tâl am ddanfon bin(iau) ar eich archeb gyntaf, ond codir tâl o £20 i ddanfon unrhyw finiau ychwanegol sy’n cael eu harchebu yn ddiweddarach. |
Beth fydd yn digwydd os bydd y bin brown yn mynd ar goll? | Yn gyntaf holwch eich cymdogion rhag ofn eu bod wedi gweld eich bin. Os na allwch ddod o hyd i’ch bin, ffoniwch ni ar 01492 555898 a gallwn drefnu eich bod yn cael bin newydd am ffi (yn dibynnu ar yr amgylchiadau). |
A fydd y casgliadau yn dod i ben yn ystod misoedd y gaeaf? |
Na, mae’r casgliadau yn parhau bob pythefnos drwy’r flwyddyn. |