Rydym yn darparu gwasanaeth casglu gwastraff gardd yng Nghonwy.
Gallwch nawr danysgrifio i'n casgliadau ar gyfer y flwyddyn Ebrill 2024 - Mawrth 2025
Trwy ein hymgyrch ‘Gwobrau Ailgylchu’ rydym yn cyfrannu £1 i elusen am bob tunnell o wastraff gardd rydym yn ei chasglu gan breswylwyr Conwy. I bleidleisio dros eich hoff elusen cliciwch yma.
Gweld taflen am y gwasanaeth
A fyddech cystal â darllen Telerau ac Amodau ein gwasanaeth casglu gwastraff gardd
Beth fydd yn digwydd ar ôl i chi danysgrifio i’r gwasanaeth?
-
Byddwn yn anfon neges e-bost atoch yn rhoi rhagor o wybodaeth am sut i ddefnyddio’r gwasanaeth.
-
Os ydych eisoes yn gwsmer, byddwch yn derbyn sticer taliad yn y post ar gyfer pob bin rydych wedi talu tanysgrifiad ar ei gyfer.
-
Os ydych newydd danysgrifio i’r gwasanaeth, byddwn yn danfon eich bin(iau) newydd â’r sticeri taliad yn sownd ynddynt.
-
Byddwn yn casglu eich gwastraff gardd bob pythefnos.
-
Os nad yw eich eiddo yn addas ar gyfer bin, ffoniwch ni ar 01492 555 898.
Edrychwch am eich diwrnod casglu
Pam ddylwn i danysgrifio i’r gwasanaeth hwn?
- Casgliad rheolaidd bob pythefnos.
- Bin olwynion 240 litr hawdd ei ddefnyddio.
- Dim angen mynd i’r Ganolfan Ailgylchu i gael gwared ar wastraff gardd.
- Mae’r holl wastraff gardd rydym yn ei gasglu yn cael ei gompostio’n lleol.
- Am bob tunnell o wastraff rydym yn ei gasglu, rydym yn cyfrannu £1 i elusen leol drwy ein Hymgyrch Gwobrau Ailgylchu.
Faint mae’n ei gostio?
- Cost casgliadau yw £40 y flwyddyn am un bin brown.
- Costau casgliadau yw £20 y flwyddyn am bob bin brown ychwanegol.
- Gall pob cartref archebu hyd at 4 bin.
- Bydd biniau yn cael eu danfon am ddim ar eich archeb gyntaf. Codir tâl o £20 i ddanfon unrhyw finiau ychwanegol ar ôl eich archeb gyntaf.
- Mae’r rhain yn brisiau sefydlog ar gyfer y flwyddyn, rhwng mis Ebrill 2024 a mis Mawrth 2025. Gallwch danysgrifio i’r gwasanaeth ar unrhyw adeg yn ystod y flwyddyn, ond bydd y tâl blynyddol yr un fath.
Pa eitemau gallwch eu hailgylchu
Rhoi gwybod am broblem
Cwestiynau Cyffredin
Adborth Cwsmeriaid
Mae Bryson Recycling wedi ymrwymo i ddarparu’r gwasanaeth gorau posibl i chi. Rydym yn gwerthfawrogi barn ein cwsmeriaid ac rydym yn falch o dderbyn unrhyw awgrymiadau neu sylwadau ynglŷn â sut gallwn wella ein gwasanaethau.
AROLWG BODDHAD CWSMERIAID