Casgliadau Gwastraff Gardd

Rydym yn darparu gwasanaeth casglu gwastraff gardd yng Nghonwy.

 

Gallwch nawr danysgrifio i'n casgliadau ar gyfer y flwyddyn Ebrill 2025 - Mawrth 2026.

COFRESTRWCH YN AWR 

Tanysgrifiadau’r Gwasanaeth Casglu Gwastraff Gardd

GWYBODAETH BWYSIG 

Y cyfnod tanysgrifio presennol yw rhwng mis Ebrill 2025 a mis Mawrth 2026, bydd y pris yr un fath os byddwch yn tanysgrifio yn nes ymlaen yn y flwyddyn.

Bydd eich tanysgrifiad yn dechrau 14 diwrnod gwaith ar ôl i chi dalu.

Cyfrifoldeb y cwsmer yw tanysgrifio i’r gwasanaeth o leiaf 14 diwrnod gwaith cyn dyddiad y casgliad nesaf er mwyn sicrhau bod y tanysgrifiad wedi’i brosesu a/neu bod y bin brown wedi cael ei ddanfon ac ar gael i’w lenwi a’i gasglu.

Gellir canslo’r tanysgrifiad blynyddol ar unrhyw adeg; fodd bynnag bydd unrhyw ad-daliadau yn unol â’n Polisi Ad-daliadau yn unig. Ni fydd Bryson Recycling yn symud biniau o eiddo os bydd cwsmer yn dewis peidio ag aildanysgrifio i’r gwasanaeth, yn canslo’r gwasanaeth neu’n lleihau nifer y biniau roedd yn arfer talu tanysgrifiad amdanynt.

DERBYN

A fyddech cystal â darllen Telerau ac Amodau ein gwasanaeth casglu gwastraff gardd 

Pam ddylwn i danysgrifio i’r gwasanaeth hwn?

  • Casgliad rheolaidd bob pythefnos.
  • Bin olwynion 240 litr hawdd ei ddefnyddio.
  • Dim angen mynd i’r Ganolfan Ailgylchu i gael gwared ar wastraff gardd.
  • Mae’r holl wastraff gardd rydym yn ei gasglu yn cael ei gompostio’n lleol.
  • Am bob tunnell o wastraff rydym yn ei gasglu, rydym yn cyfrannu £1 i elusen leol drwy ein Hymgyrch Gwobrau Ailgylchu.

Faint mae’n ei gostio?

  • Cost casgliadau yw £42 y flwyddyn am un bin brown.
  • Costau casgliadau yw £20 y flwyddyn am bob bin brown ychwanegol.
  • Gall pob cartref archebu hyd at 4 bin.
  • Bydd biniau yn cael eu danfon am ddim ar eich archeb gyntaf. Codir tâl o £20 i ddanfon unrhyw finiau ychwanegol ar ôl eich archeb gyntaf. 
  • Mae’r rhain yn brisiau sefydlog ar gyfer y flwyddyn, rhwng mis Ebrill 2025 a mis Mawrth 2026. Gallwch danysgrifio i’r gwasanaeth ar unrhyw adeg yn ystod y flwyddyn, ond bydd y tâl blynyddol yr un fath.

Beth fydd yn digwydd ar ôl i chi danysgrifio i’r gwasanaeth?

  • Byddwn yn anfon neges e-bost atoch yn rhoi rhagor o wybodaeth am sut i ddefnyddio’r gwasanaeth.

  • Os ydych eisoes yn gwsmer, byddwch yn derbyn sticer taliad yn y post ar gyfer pob bin rydych wedi talu tanysgrifiad ar ei gyfer. Y Post Brenhinol fydd yn dosbarthu sticeri a dylech eu derbyn cyn pen 14 diwrnod gwaith ar ôl i chi gyflwyno eich archeb.

  • Os ydych newydd danysgrifio i’r gwasanaeth, byddwn yn danfon eich bin(iau) newydd â’r sticeri taliad yn sownd ynddynt.

Casgliadau 

  • Byddwn yn casglu eich gwastraff gardd bob pythefnos. Rhowch eich bin brown allan erbyn 7am ar eich diwrnod casglu. 

  • Os yw'n anodd ichi roi'ch bin allan i'w gasglu, cysylltwch â ni ar 01492 555 898.

  • Os nad yw eich eiddo yn addas ar gyfer bin, ffoniwch ni ar 01492 555 898.

Pa eitemau gallwch eu hailgylchu

Edrychwch am eich diwrnod casglu

Cwestiynau Cyffredin 

Rhoi gwybod am broblem

Adborth Cwsmeriaid 

Mae Bryson Recycling wedi ymrwymo i ddarparu’r gwasanaeth gorau posibl i chi. Rydym yn gwerthfawrogi barn ein cwsmeriaid ac rydym yn falch o dderbyn unrhyw awgrymiadau neu sylwadau ynglŷn â sut gallwn wella ein gwasanaethau.

AROLWG BODDHAD CWSMERIAID