Dewiswch Ailddefnyddio yn rhoi hwb o £65K i Hosbis Dewi Sant

Mae’n bleser gan Bryson Recycling gyhoeddi ei fod yn cyfrannu £65,000 i Hosbis Dewi Sant, diolch i lwyddiant ei siopau arloesol Dewiswch Ailddefnyddio. Mae’r siopau hyn yng Nghanolfannau Ailgylchu Gwastraff Cartref Bryson ym Mochdre a’r Rhyl, yn gwerthu eitemau ail law a gyfrannwyd gan drigolion lleol, gan droi gwastraff yn adnodd er budd y gymuned leol.

Yn ystod y flwyddyn ddiwethaf yn unig, gwerthwyd 260,000 o eitemau yn y siopau Dewiswch Ailddefnyddio, gan atal 325 tunnell o ddefnyddiau rhag cael eu hanfon i safleoedd tirlenwi. Mae’r fenter hon nid yn unig o fudd i’r amgylchedd, mae hefyd yn darparu eitemau fforddiadwy i bobl leol ac yn codi arian y mae dirfawr ei angen i elusen leol ar yr un pryd.

Yn ogystal â’r effaith amgylcheddol ac elusennol, mae’r ddwy siop Dewiswch Ailddefnyddio yn chwarae rhan hollbwysig yn yr economi leol ac yn cyflogi 14 aelod staff.

Prosiect ar y cyd yw hwn rhwng Bryson, Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy a Chyngor Sir Ddinbych, ac mae’r holl elw yn mynd i Hosbis Dewi Sant. Bydd y cyfraniad hwn yn cefnogi nod yr hosbis i ddarparu gofal diwedd oes hollbwysig i bobl leol.

Mae menter Dewiswch Ailddefnyddio yn annog pobl leol i gyfrannu eitemau sy’n rhy dda i’w taflu. Gallwch fynd â chyfraniadau i’r warws ger mynedfa’r siop ym Mochdre, neu eu rhoi’n uniongyrchol i’r siop yn y Rhyl. Trwy gymryd rhan, rydych yn helpu i ymestyn oes eitemau y gellir eu hailddefnyddio, lleihau gwastraff a chyfrannu at economi gylchol.

Dros y pum mlynedd diwethaf, mae Bryson wedi cyfrannu dros £48,000 i elusennau lleol yng Ngogledd Cymru drwy’r ymgyrch Gwobrau Ailgylchu, pan fydd Bryson yn cyfrannu £1 i elusen am bob tunnell a ailgylchir.

Wrth gyfeirio at y cyfraniad, dywedodd Gareth Walsh, Rheolwr Cyffredinol Bryson Recycling:

“Fel menter gymdeithasol, mae Bryson Recycling wedi ymrwymo i ddod o hyd i ffyrdd mwy cynaliadwy o drin ein gwastraff. Pan fyddwch yn dewis ailddefnyddio, gallwch wneud gwahaniaeth gwirioneddol – rydych nid yn unig yn helpu i ddefnyddio eitemau am gyfnod hwy, sydd o fudd i’r amgylchedd, rydych hefyd yn cefnogi’r economi leol ac elusen sy’n darparu gwasanaethau hanfodol yn ein cymuned. Diolch i bawb sydd wedi cyfrannu neu brynu eitemau yn ein siopau, gan helpu i wneud y cyfraniad hwn yn bosibl”.

Ychwanegodd Margaret Hollings, Cyfarwyddwr Masnachol Hosbis Dewi Sant:

“Mae Bryson Recycling yn gwneud gwaith anhygoel ac mae’r fenter hon yn cyd-fynd yn agos iawn â’n gwerthoedd o ran cynaliadwyedd. Rydyn ni’n hynod o ddiolchgar i Bryson am ddewis cyfrannu’r swm anhygoel hwn i Hosbis Dewi Sant a diolch i bawb yn y gymuned am helpu i godi swm mor fawr a fydd yn gwneud gwahaniaeth enfawr i’n cleifion.” 

Galwch draw i’n siopau Dewiswch Ailddefnyddio ym Mochdre neu’r Rhyl heddiw i gyfrannu eitem neu chwilio am fargen. I gael rhagor o wybodaeth am Bryson Recycling ewch i www.brysonrecycling.org.