Rydym yn gweithredu gwasanaeth casglu gwastraff swmpus ar ran Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy.
Gallwch drefnu i ni gasglu eitemau mawr fel dodrefn, matresi ac offer trydanol o’ch cartref.
Neu, gallwch fynd â’r rhan fwyaf o eitemau cartref, am ddim, i’ch Canolfan Ailgylchu Gwastraff Cartref.
Faint mae’n ei gostio?
Cost y casgliadau yw £30.25 am hyd at 4 eitem.
Pan fyddwch yn archebu casgliad, rhaid i chi restru’r holl eitemau rydych am i ni eu casglu. Ni fyddwn yn casglu unrhyw eitemau nad ydych wedi’u rhestru.
Eitemau rydym yn eu casglu
- Dodrefn fel soffas, cadeiriau, byrddau a chypyrddau dillad.
- Nwyddau trydanol mawr fel setiau teledu, peiriannau torri gwair, cyfrifiaduron neu eitemau eraill sy’n rhy fawr ar gyfer casgliadau wrth ochr y ffordd.
- Gwelyau – sylwer, mae pennau gwelyau, fframiau gwelyau a matresi yn cael eu cyfrif fel eitemau unigol.
- Drysau mewnol.
- Nwyddau gwyn fel oergelloedd, rhewgelloedd, peiriannau sychu dillad a pheiriannau golchi dillad.
Rhaid bod dau aelod o’r tîm casglu yn gallu codi’r eitemau heb ddefnyddio offer codi.
Eitemau mawr iawn
Mae rhai eitemau mawr iawn yn cyfrif fel eitemau lluosog, er enghraifft:
- Soffas cornel – yn cyfrif fel 2 eitem.
- Gwelyau trydan y gellir eu haddasu – mae gwely sengl yn cyfrif fel 2 eitem, mae gwely dwbl yn cyfrif fel 3 eitem.
Eitemau nad ydym yn eu casglu
- Gwastraff DIY neu waith dymchwel fel rwbel, brics a bwrdd plastr. Eitemau neu ddefnyddiau gwastraff ar ôl prosiectau DIY fel swît ystafelloedd ymolchi, cypyrddau cegin, ffenestri neu ddrysau allanol. Os oes gennych eitemau o’r fath i’w gwaredu, gallwch fynd â nhw i’ch Canolfan Ailgylchu Gwastraff Cartref leol (codir tâl), gallwch logi sgip neu gallwch ofyn i’r sawl sy’n gwneud y gwaith i gael gwared ar y gwastraff.
- Gwastraff ailgylchu cyffredinol y cartref neu wastraff cyffredinol a gesglir fel rhan o wasanaeth casgliadau wrth ochr y ffordd y cyngor.
- Gwastraff gardd. Gallwch danysgrifio i’r gwasanaeth casglu gwastraff gardd neu fynd â’r gwastraff i’ch Canolfan Ailgylchu Gwastraff Cartref leol.
- Gwastraff peryglus fel asbestos, diesel, petrol neu olew tanwydd arall, neu gynwysyddion tanwydd.
- Defnyddiau ffrwydrol fel poteli nwy neu ffrwydron.
- Oergelloedd neu rhewgelloedd nad ydynt yn wag. Tynnwch fwyd neu eitemau eraill cyn i ni eu casglu neu ni fyddwn yn gallu eu casglu na dychwelyd ar ddyddiad arall. Ni fyddwn yn rhoi ad-daliad.
- Carpedi. Gallwch fynd â charpedi am ddim i’ch Canolfan Ailgylchu Gwastraff Cartref leol neu gofynnwch i’ch gosodwr carpedi fynd â’ch hen garpedi.
- Eitemau mawr iawn fel pianos, byrddau pŵl neu oergelloedd/rhewgelloedd masnachol.
- Unrhyw eitemau eraill y mae angen offer codi arbenigol ar eu cyfer neu eitemau nad ydynt yn ffitio yn y cerbyd casglu.
Archebu Casgliad
Gallwch archebu casgliad yma.
Gallwch hefyd ffonio’r Tîm Cyngor Amgylcheddol yng Nghyngor Bwrdeistref Sirol Conwy ar 01492 575337, e-bost erf@conwy.gov.uk neu gysylltu â nhw ar-lein
Casgliadau
- Ar ôl i chi archebu a thalu am eich casgliad, byddwn yn cysylltu â chi i gadarnhau diwrnod casglu.
- Rydym yn ceisio casglu cyn pen 14 diwrnod ar ôl derbyn taliad.
- Ar eich diwrnod casglu, mae angen i chi wneud yn siŵr bod eich eitemau y tu allan i’ch eiddo erbyn 8am. Os yw’r tywydd yn wael, gorchuddiwch yr eitemau os gwelwch yn dda.
- Bydd yr holl eitemau yn cael eu casglu rhwng 8am a 5pm. Ni allwn roi amser casglu penodol. Does dim angen i chi aros i mewn ar gyfer y tîm casglu os yw eich eitemau yn hawdd eu gweld ac yn hawdd mynd atynt.
- Os na fydd eich eitemau wedi cael eu gadael y tu allan yn barod i’w casglu, ni fyddwn yn gallu dychwelyd ar ddyddiad arall. Ni fyddwn yn rhoi ad-daliad.
- Pwysig: Ni fydd y tîm casglu yn mynd i mewn i’ch eiddo i nôl yr eitemau, ac nid ydynt yn gymwys i ddatgysylltu unrhyw wasanaethau. Os oes angen cymorth arnoch i symud eitemau i flaen eich eiddo, dylech ofyn i berthynas neu ffrind eich helpu i gael eich eitemau yn barod i’w casglu.