Canolfannau Ailgylchu Gwastraff Cartrefi Powys

Rydym yn gweithredu pedair Canolfan Ailgylchu Gwastraff Cartrefi ar ran Cyngor Sir Powys. 

Mae’r rhain yn Aberhonddu, Llandrindod, Cwm-twrch Isaf a’r Drenewydd.

Rydym yn derbyn amrywiaeth eang o eitemau yn y canolfannau. Rydym yn canolbwyntio ar ailgylchu ac ailddefnyddio cymaint â phosibl a lleihau faint o wastraff a anfonir i safleoedd tirlenwi.

Cyn i chi ymweld â’n canolfannau, gofynnwn i chi ddidoli eich holl wastraff ailgylchu yn ôl y mathau o ddefnyddiau gan fod hyn yn ein helpu i Ailgylchu y Ffordd Gywir. Mae’n golygu y bydd y defnyddiau o ansawdd uwch ac y gallwn eu hailgylchu’n lleol. Mae hyn yn well i’r amgylchedd, yn cefnogi’r economi leol ac yn creu swyddi lleol.

Dewiswch Ailddefnyddio hefyd os gwelwch yn dda; cadwch unrhyw eitemau sy’n addas i’w hailddefnyddio ar wahân a siaradwch ag aelod staff pan fyddwch yn cyrraedd y safle.

Lleoliadau

Canolfan Ailgylchu Gwastraff Cartrefi Aberhonddu – Ystâd Ddiwydiannol Ffrwdgrech, Aberhonddu, Powys, LD3 8LA

Canolfan Ailgylchu Gwastraff Cartrefi Llandrindod – Ystâd Ddiwydiannol, Heol Waterloo, Llandrindod, Powys, LD1 6BH

Canolfan Ailgylchu Gwastraff Cartrefi Cwmtwrch Isaf – Ffordd Bethel, Cwm-twrch Isaf, Powys, SA9 2HW

Canolfan Ailgylchu Gwastraff Cartrefi y Drenewydd - Uned 4 Ystâd Ddiwydiannol Dyffryn, Ffordd y Pwll, Y Drenewydd, Powys, SY16 3BD

Trefnu Ymweliad

Rhaid i chi archebu slot amser i ymweld â’r Canolfannau Ailgylchu Gwastraff Cartrefi.

ARCHEBWCH NAWR

Gallwch hefyd archebu slot amser dros y ffôn: 01597 827465.

Gallwch archebu slot amser hyd at saith diwrnod ymlaen llaw. Fodd bynnag, os oes lle ar gael, mae’n bosibl y gallwch archebu slot amser heddiw.

Ydych chi’n gyrru cerbyd math masnachol neu rydych yn bwriadu defnyddio trelyr i ymweld â ni? Mae’n bosibl y bydd angen i chi gael Trwydded Cerbyd Masnachol neu Drelyr (CVT). 

Ni allwn dderbyn unrhyw wastraff nac ailgylchu o ffynonellau nad ydynt yn gartrefi yn unrhyw un o’r Canolfannau Ailgylchu Gwastraff Cartrefi. I gael manylion am sut i waredu gwastraff masnachol yn gyfreithlon, cysylltwch ag Ailgylchu Masnachol Powys.

Oriau agor

Aberhonddu

Dydd Llun  Dydd Mawrth  Dydd Mercher Dydd Iau  Dydd Gwener Dydd Sadwrn  Dydd Sul 
9.00 - 17.00 9.00 - 17.00 9.00 - 17.00 AR GAU AR GAU 10.00 - 16.00 10.00 - 16.00

Llandrindod

Dydd Llun  Dydd Mawrth  Dydd Mercher Dydd Iau  Dydd Gwener Dydd Sadwrn  Dydd Sul
AR GAU AR GAU 9.00 - 17.00 9.00 - 17.00 9.00 - 17.00 10.00 - 16.00 10.00 - 16.00

Cwmtwrch Isaf

Dydd Llun  Dydd Mawrth  Dydd Mercher Dydd Iau  Dydd Gwener Dydd Sadwrn  Dydd Sul
9.00 - 17.00 AR GAU AR GAU 9.00 - 17.00 9.00 - 17.00 10.00 - 16.00 10.00 - 16.00

Y Drenewydd

Dydd Llun  Dydd Mawrth  Dydd Mercher Dydd Iau  Dydd Gwener Dydd Sadwrn  Dydd Sul
9.00 - 17.00 9.00 - 17.00 9.00 - 17.00 AR GAU AR GAU 10.00 - 16.00 10.00 - 16.00

Gwyliau Banc

Bydd pob Canolfan Ailgylchu Gwastraff Cartrefi AR GAU ar y dyddiadau canlynol:

  • 25 Rhagfyr
  • 26 Rhagfyr
  • 1 Ionawr

Ymweld â’r canolfannau

Cyn i chi ddod i’r ganolfan

  • Didolwch eich gwastraff ailgylchu a’i wahanu fel y gallwch gael gwared ar bopeth yn ystod eich slot 10 munud o hyd. Mae’n bosibl y bydd staff yn agor bagiau bin du neu gynwysyddion eraill pan fyddwch yn cyrraedd y ganolfan i wneud yn siŵr bod yr holl wastraff wedi’i wahanu. Bydd bagiau neu focsys o ddefnyddiau cymysg, heb eu didoli, yn cael eu gwrthod.
  • Ystyriwch a fyddai’n bosibl ailddefnyddio rhai o’r eitemau nad oes eu hangen arnoch mwyach. 
  • Gwnewch yn siŵr y gall dau o bobl ddadlwytho’r eitemau sydd gennych. Peidiwch â dod â mwy o eitemau nag y gallwch eu dadlwytho mewn 10 munud heb gymorth gan ein staff.
  • Ystyriwch bwysau a maint eich llwyth i wneud yn siŵr y gallwch gael gwared ar yr eitemau yn ddiogel. Gall staff roi cymorth gydag eitemau swmpus ond efallai na fyddant yn gallu helpu os yw’r gwastraff yn afresymol o drwm.

Pan fyddwch yn ymweld â’r ganolfan

  • Dewch â dull adnabod gyda chi i ddangos eich bod yn byw ym Mhowys. 
  • Dewch yn y cerbyd y gwnaethoch ei nodi wrth drefnu’r apwyntiad – byddwn yn gwirio’r rhif cofrestru.
  • Cyrhaeddwch mor agos â phosibl at eich slot amser os gwelwch yn dda.
  • Y terfyn cyflymder yw 5mya, gyrrwch yn ofalus bob amser os gwelwch yn dda.  
  • Arhoswch yn eich car nes i aelod staff roi cyfarwyddyd i chi yrru i mewn i’r safle. Rhaid i blant ac anifeiliaid anwes aros yn y cerbydau bob amser.
  • Gwisgwch esgidiau a dillad addas pan fyddwch yn ymweld â’r Canolfannau Ailgylchu Gwastraff Cartrefi.
  • Diffoddwch eich injan a defnyddiwch y brêc parcio cyn dadlwytho. 
  • Rhaid i eitemau sy’n dod i’r ganolfan gael eu hailgylchu’n gywir. Dim ond fel dewis olaf y cewch daflu eitemau yn y sgipiau sbwriel gweddilliol /cyffredinol a dylid eu defnyddio ar gyfer eitemau na ellir eu hailgylchu yn unig.
  • Os nad ydych siŵr ym mha gynhwysydd y dylech ailgylchu eich eitemau, neu os oes gennych eitem i’w hailddefnyddio, gofynnwch i aelod staff a fydd yn hapus i’ch helpu.
  • Rhaid i chi orffen dadlwytho eich cerbyd mewn 10 munud
  • Ufuddhewch i unrhyw gais neu gyfarwyddyd a roddir gan y staff.
  • Gofynnwch i’r staff am gyngor neu chymorth os oes angen.
  • Dewch â cherdyn talu gyda chi os oes angen i chi dalu am eitemau taladwy.

Pwysig – os byddwch yn ymddwyn yn ymosodol tuag at ein staff, byddwn yn gofyn i chi adael y safle ac mae’n bosibl y byddwn yn galw’r Heddlu.

Beth gallaf ei ailgylchu?

Gallwch ailgylchu’r eitemau hyn am ddim yn ein Canolfannau Ailgylchu Gwastraff Cartrefi.

I wneud eich ymweliad yn haws ac yn gynt, cofiwch ddidoli eich defnyddiau ailgylchadwy cyn i chi ddod i’r ganolfan.

Dylai’r holl eitemau sy’n cael eu hailgylchu fod yn lân.

  • Offer trydanol bach a mawr
  • Oergelloedd a rhewgelloedd
  • Batris
  • Cetris argraffyddion
  • Bylbiau golau a thiwbiau fflworoleuol
  • Setiau teledu a sgriniau
  • Poteli a jariau gwydr
  • Metel sgrap
  • Gwastraff gardd
  • Tecstilau
  • Dodrefn
  • Caniau
  • Poteli a thybiau plastig
  • Plastig caled, fel teganau neu ddodrefn gardd
  • Plastig meddal, fel bagiau plastig a defnydd lapio
  • Cartonau 
  • Papur
  • Cardbord
  • Paent 
  • Olew coginio
  • Batris ceir
  • Cemegion cartref
  • Carpedi
  • Matresi
  • Olew injan wedi’i ddefnyddio

Codir tâl bach i gael gwared ar yr eitemau gwastraff DIY canlynol:

Eitem  Taliadau
Rwbel a phridd Un bag am ddim fesul ymweliad
£2.20 y bag
£15.00 fesul trelar bach
£30.00 fesul trelar canolig
load. Blociau ‘breeze’, concrit, brics, serameg, teils, fflagenni, graean,
llechi, cerrig eraill, pridd, ac ati
Bwrdd plastr £4.40 y bag
£22.00 am bob Ilwyth trelar na chaniateir
£44.00 am bob trelar a ganiateir
Rhaid iddo fod yn lân a sych a’i wahanu oddi wrth ddeunyddiau eraill
(pren, rwbel, inswleiddio, ac ati).
Coed a phren Un bag am ddim fesul ymweliad
£4.40 y bag
£4.40 y ffens/panel sied
£22.00 am bob Ilwyth trelar na chaniateir
£44.00 am bob trelar a ganiateir
Dodrefn, drysau, cypyrddau, ffensys, siediau, lloriau,
deciau wedi’u gosod, ac ati.
Fframiau ffenestri a drysau uPVC £3.00 fesul ffenestr sengl neu ffrâm drws sengl
£6.00 fesul ffenestr aml-gwarel neu ddrws dwbl
Heb wydr
Gwydr ffenestr new drws £0.50 y paen (gwydr sengl)
£1.00 y paen (gwydr dwbl/triphlyg)
Offer glanweithdra ystafelloedd ymolchi a cheginau £3.00 yr un
Baddonau, hambyrddau cawod, toiledau, bidets, sinciau, sgriniau
cawod, ac ati.
Deunydd ynysu  £3.00 y bag
Sbwng PIR, byrddau ffeibr pren ac estyll stribed, gwlân mwynau neu
wydr gwydr ffibr, ‘Cellotex’, ‘Kingspan’, ac ati.
Ffelt toi  £3.00 y bag
Felt toi siediau a gareiys.
Gosodiadau plastig  £1.00 y metr
£1.00 a 5 darn gosod/uniad
Bibellau i lawr, gwter, facia, soffit, astell dywydd,
ffitiadau a chymalau, ac ati.

Bag – Maint bag adwerthu arferol ar gyfer tywod /agregau, hyd at 25lt.
Trelar bach – Trelar gyda hyd gwely hyd at 1.4m, nad yw’n ofynnol cael trwydded CVT
Trelar canolig – Trelar gyda hyd gwely rhwng 1.4m a 2.44m o hyd, y mae'n ofynnol cael trwydded CVT

Sut mae’r taliadau yn cael eu cyfrifo?

Rydym yn cyfrifo’r taliadau ar sail nifer pob math o ddefnydd unigol – boed hynny’n eitemau unigol, bagiau neu lwythi trelyr.

  • Bydd aelod staff yn asesu’r nifer i gyfrifo’r tâl.
  • Bydd yn dweud wrthych beth yw’r tâl ar sail ei asesiad rhesymol o bwysau’r llwyth.
  • Nid oes yn rhaid i chi dalu’r tâl, ond ni chaniateir i chi gael gwared ar eitemau taladwy heb dalu.

Sut ydw i’n talu?

Gallwch dalu gyda cherdyn credyd neu ddebyd yn y canolfannau.

Dewis Ailddefnyddio

Pan fyddwch yn ymweld â’n Canolfannau Ailgylchu Gwastraff Cartrefi, cofiwch Ddewis Ailddefnyddio os gwelwch yn dda.

Os oes gennych eitem nad yw ei hangen arnoch mwyaf, ond sy’n rhy dda i’w hailgylchu neu ei gwaredu, gallwch ei rhoi yn yr ardal Dewis Ailddefnyddio ym mhob safle. 

Rydym yn bwriadu cyflwyno siopau ailddefnyddio ym mhob un o’n Canolfannau Ailgylchu Gwastraff Cartrefi. Cyn bo hir byddwch yn gallu cyfrannu a/neu brynu eitemau yn ystod eich ymweliad. Bydd pob eitem a gaiff ei chyfrannu yn cael ei gwerthu er mwyn helpu i godi arian i achosion lleol. Bydd rhagor o fanylion ar gael cyn bo hir.