Canolfannau Ailgylchu Cymru
Rydym yn rhedeg pum Canolfan Ailgylchu yng Nghymru ar ran Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy a Chyngor Sir Ddinbych.
Mae’r rhain ym Mochdre, Abergele, Y Rhyl, Rhuthun a Dinbych.
Rydym yn casglu amrywiaeth eang o eitemau ar gyfer eu hailgylchu ac rydym hefyd yn derbyn gwastraff gardd a gwastraff cartref.
Trefnu Apwyntiad
Mae’n rhaid i chi drefnu apwyntiad i ymweld â’r Canolfannau Ailgylchu.
Os ydych yn byw yn ardal Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy gallwch drefnu apwyntiad yma.
Os ydych yn byw yn ardal Cyngor Sir Ddinbych gallwch drefnu apwyntiad yma.
Gall pob aelwyd ymweld â’r safleoedd hyd at 6 gwaith bob dau fis.
Beth fydd yn digwydd ar ôl i mi gyrraedd y Ganolfan Ailgylchu?
- Dylech geisio cyrraedd yn brydlon, er mwyn osgoi ciwiau.
- Bydd gennych 10 munud ar gyfer eich ymweliad ar y safle. Dylech sicrhau eich bod yn gorffen dadlwytho eich gwastraff o fewn yr amser hwn.
- Dim ond dau berson fydd yn cael mynd allan o’r car – dewch ag eitemau y gallwch eu cario yn unig.
- Gwisgwch ddillad addas fel menig ac esgidiau cadarn os ydych yn trin eitemau miniog neu drwm
- Rydym yn argymell eich bod yn didoli eich gwastraff cyn dod, er mwyn sicrhau y gallwch ddadlwytho o fewn y slot 10 munud.
Os byddwch yn ymddwyn yn ymsodol tuag at staff ar y safle, gofynnir i chi adael ac mae’n bosibl y bydd yr Heddlu yn cael eu galw.
Oriau Agor
|
Dydd Llun – Dydd Sadwrn |
Dydd Sul |
Ebrill – Hydref |
9.00 – 17.00 |
9.00 - 16.00 |
Tachwedd – Mawrth |
9.00 - 16.00 |
9.00 - 16.00 |
Sylwer:
- Safle Dinbych – ar gau bob dydd Iau
- Safle Rhuthun – ar gau bob dydd Gwener
- 27 – 31 Rhagfyr: Mae safleoedd Abergele a Mochdre ar agor tan 17:00. Mae’r holl safleoedd eraill ar agor yn ôl yr arfer tan 16:00.
Gwyliau Banc
Bydd ein safleoedd ar gau ar y dyddiadau canlynol:
- 25 Rhagfyr
- 26 Rhagfyr
- 1 Ionawr
Lleoliadau
Canolfan Ailgylchu Abergele – Ffordd Rhuddlan, St George, Abergele. LL22 9SE
Canolfan Ailgylchu Mochdre – Ffordd Bron-y-Nant, Mochdre, Bae Colwyn. LL28 4YL
Canolfan Ailgylchu Dinbych – Ystad Ddiwydiannol Colomendy, Dinbych. LL16 5TA
Canolfan Ailgylchu y Rhyl – Ffordd Marsh, Y Rhyl. LL18 2AD
Canolfan Ailgylchu Rhuthun – Ystad Ddiwydiannol Lon Parcwr, Rhuthun. LL15 1BB
Pa eitemau sy’n cael eu derbyn
Yn ein Canolfannau Ailgylchu mae gennym gynwysyddion ar gyfer gwahanol ddeunyddiau y gellir eu hailgylchu. Er mwyn gwneud eich ymweliad yn fwy hwylus ac yn gynt, rydym yn gofyn i chi ddidodli eich deunyddiau ailgylchu cyn i chi ddod i’r safle. Dylai’r holl eitemau ailgylchu fod yn lân. Bydd ein staff yn hapus i’ch cynorthwyo mewn unrhyw ffordd sy’n bosibl.
Gallwch ailgylchu’r eitemau canlynol am ddim:
Eitemau |
Cyfarwyddiadau |
Papur |
Dim deunydd pecynnu seloffan, e.e. ar lythyrau sothach |
Plastig |
Poteli, potiau, tybiau a blychau plastig
Dim eitemau sydd wedi baeddu |
Gwastraff gardd |
Dail, toriadau/torion, brigau a changhennau bach yn unig.
Dim pridd, rwbel, potiau planhigion, bagiau compost ac ati |
Poteli a jariau gwydr |
Dim gwydr wedi torri |
Batris |
|
Tecstilau |
|
Caniau |
Rhaid i’r caniau a’r chwistrellau fod yn hollol wag cyn eu taflu |
Cartonau |
|
Dodrefn |
|
Eitemau trydanol |
|
Cetris argraffu |
|
Metel sgrap |
|
Cardfwrdd |
|
Setiau teledu a monitorau |
|
Carpedi |
|
Plastig caled |
Dodrefn plastig, teganau, ac ati |
Beiciau |
Rydym yn casglu beiciau sy’n addas i’w hailddefnyddio yn ein holl safleoedd. Os hoffech gyfrannu beic i fenter Drosi Bikes CIC ewch â’r beic i’n safle yn Rhuthun.
|
Gallwch gael gwared ar yr eitemau canlynol am ddim ond mae cyfyngiadau o ran nifer/maint yr eitemau:
Eitemau |
Cyfyngiadau |
Gwastraff cartref |
2 leiner bin bob pythefnos. Dim ond gwastraff anifeiliaid anwes fydd yn cael ei dderbyn. Nid yw gwastraff amaethyddol/fferm yn cael ei ganiatáu |
Gwastraff anifeiliaid |
2 leiner bin bob pythefnos. Dim ond gwastraff anifeiliad anwes fydd yn cael ei dderbyn. Nid yw gwastraff amaethyddol/fferm yn cael ei ganiatáu |
Tiwbiau fflworolau |
5 y flwyddyn |
Cynwysyddion tanwydd |
Rhaid eu torri yn 2 ddarn o leiaf |
Cemegion cartref |
Poteli bach yn unig, a rhaid eu labelu’n glir a’u selio’n dda. Nid yw cemegion diwydiannol yn cael eu caniatáu |
Hen olew peiriannau neu olew coginio |
10 litr y flwyddyn |
Paent |
15 uned y flwyddyn
Mae "uned" yn 2.5 litr (neu gyfwerth) |
Batris ceir |
2 y flwyddyn |
Matresi |
2 y flwyddn |
Gallwch fynd â’r eitemau canlynol i’n Canolfannau Ailgylchu Cartref, fodd bynnag, bydd yn rhaid i chi dalu er mwyn cael gwared ar y rhain:
Eitem |
Tâl
|
Rwbel a phridd
Uchafswm pwysau a ganiateir yw 20kg y bag
Hyd at 20kg am ddi
Yn cynnwys eitemau fel blociau adeiladu, brics, cerameg, teils, cerrig llorio, graean, llechi, cerrig a tharmac |
£2.20 y bag
|
£22.00 am lond trêlyr |
Bwrdd plastr
|
£4.40 y bag neu’r bwrdd
|
£33.00 am lond trêlyr |
Coed a phren
Uchafswm pwysau a ganiateir yw 20kg y bag
Hyd at 5kg am ddim
Mae gwastraff DIY neu adeiladu yn cynnwys: dodrefn gosod, drydau a chypyrddau cegin, ffensys, siediau, lloriau a decin.
|
£4.40 y bag
|
£33.00 am lond trêlyr
|
Asbestos
Asbestos wedi’i fondio yn unig. Rhaid i’r asbestos fod mewn bag dwbl.
|
£13.75 y bag neu’r darn
|
Teiars
Teiars ceir a beiciau modur yn unig, dim teiars cerbydau masnachol.
Teiars beics am ddim.
|
£4.00 y teiar
|
Poteli nwy
Poteli nwy hollol wag.
|
Hyd at 10kg - £6.00 yr un
11kg-20kg - £11.00 yr un
20kg + - £35.00 yr un
|
Fframiau ffenestri plastig
Gyda/heb wydr. Ffenestri un-gwydr yn unig. Codir tâl am 2 eitem am ffenestri sy’n cynnwys sawl gwydr.
|
£3.00 yr un
|
Drysau neu fframiau drysau plastig
Gyda gwydr neu heb wydr. Drysau neu fframiau drysau sengl yn unig. Byddwn yn codi dwbl am ddrysau dwbl.
|
£3.00 yr un
|
Offer ystafell ymolchi
Yn cynnwys (ond nid yn gyfyngedig i) eitemau fel baddonau, lloriau cawodydd, toiledau, bidets, basnau/sinciau, sgriniau cawod/bath ac unedau ymolchi.
|
£3.00 yr un
|
Deunydd yn ynysu
Eitemau fel deunydd ynysu gwlân mwynau a gwydr ffibr.
|
£3.00 y bag |
Felt toi
Ffelt toi siediau a garejys.
|
£3.00 y bag |
Peipiau dŵr, landeri neu estyll tywydd plastig |
£3.00 am hyd at 5 darn
£6.00 am hyd at 10 darn |
Sut rydym yn cyfrifo’r taliadau hyn?
Mae’r taliadau yn cael eu cyfrifo ar sail nifer/maint y deunyddiau – fesul eitem unigol, bag neu lwyth trêlyr.
- Mae bag yn cyfateb i fag safonol, bach, plastig sy’n cael ei ddefnyddio i gario tywod neu agregau o siopau DIY, y gall unigolyn ei godi’n ddiogel ar ei ben ei hun. Mae bag hanner llawn yn cyfrif fel un bag.
- Mae llwyth trêlyr yn seiliedig ar drêlyr 8m x 1.25m x 0.5m.
- Codir tâl fesul bag am unrhyw wastraff rhydd nad yw mewn bag, yn seiliedig ar 20kg y bag am rwbel.
1. Bydd aelod staff yn asesu’r maint i gyfrifo’r tâl, a bydd yn pwyso’r gwastraff os yn bosibl.
2. Bydd yn rhoi gwybod i chi beth yw’r tâl yn seiliedig ar y pwysau neu ei asesiad rhesymol o’r llwyth.
3. Nid oes yn rhaid i chi dalu’r tâl, ond ni chaniateir i chi gael gwared ar eitemau heb dalu. Gallwch gael gwared ar unrhyw wastraff cartref am ddim.
Sut gallaf dalu?
Gallwch dalu â cherdyn credyd neu ddebyd yn y peiriannau talu ar y safleoedd.
Siopau Dewiswch Ailddefnyddio
Rydym yn rhedeg dwy Siop Ailddefnyddio yn ein Canolfannau Ailgylchu ym Mochdre a'r Rhyl.
Dewiswch ailddefnyddio gyda ni i gael bargen, er budd eich cymuned a'r blaned.
Mae'r siopau yn derbyn cyfraniadau ar hyn o bryd.
Oriau Agor
Dydd Llun – dydd Sul: 10am - 4.30pm
Adborth Cwsmeriaid
Mae Bryson Recycling wedi ymrwymo i ddarparu’r gwasanaeth gorau posibl i chi. Rydym yn gwerthfawrogi barn ein cwsmeriaid ac yn falch o dderbyn unrhyw awgrymiadau neu sylwadau o ran sut gallwn wella ein gwasanaethau.
AROLWG BODDHAD CWSMERIAID